Amdana i

 

 

Mae Mared yn gyfarwyddwr theatr, ffilm a theledu, ac yn awdur o Gaerdydd. Ers graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2003 mae hi wedi mwynhau gyrfa fel actores, awdur a chyfarwyddwr yma yng Nghymru.

Mared yw Cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Neontopia. Hi gyfarwyddodd Tuck a A Good Clean Heart gan Alun Saunders ar gyfer y cwmni. Fe ennillodd A Good Clean Heart sylw wrth i’r cynhychiad deithio Cymru ac ennill adolygiadau ffafriol yng Ngwyl Caeredin 2016. Mewn blynyddoedd diweddar mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyswllt i The Other Room a Theatr Genedlaethol Cymru. Roedd hi’n aelod gwreiddiol o gwmni theatr Dirty Protest ac mae hi wedi cyfarwyddo sawl darn iddyn nhw, yn cynnwys rhai a berfformiwyd yn London Roundhouse, Almeida, Royal Court a gwyl Latitute. Roedd hi’n gyfarwyddwr cyswllt i Sherman Cymru am dair blynnedd, ac yn ystod ei hamser yno datblygodd waith newydd gan awduron a cyfarwyddodd gynhyrchiadau yn cynnwys Fe Ddaw’r Byd i Ben, Trwy’r Ddinas Hon, Cynnau Tân,Teigr yr Eira a Corina Pavlova a’r llew sy’n rhuo. Ar gyfer Dirty Protest cyfarwyddodd eu cynhyrchiad llawn gyntaf o After the End. 

Cafodd Mared ei henwebu ar rhestr fer Gwobrau Theatr Cymru yng nghategori Cyfarwyddwr Orau ar gyfer ei gwaith ar gynhyrchiad gwreiddiol A Good Clean Heart yn The Other Room yn 2015. Ennillodd wobr Olwen Wyman am ei gwaith dramatwrgaidd ar y cynhyrchiad hefyd. 

Oherwydd ei phrofiad o weithio gyda awduron, dechreuodd Mared gyd weithio gyda Ffion Williams fel cynhyrchydd stori ar y gyfres deledu Gwaith Cartref. Arweiniodd hyn at ddatblygu cyfres ddrama newydd wreiddiol i S4C gyda Ffion a Fiction Factory. Prosiect diweddaraf Mared yw BREGUS. Drama 6 rhan mae hi wedi cyd-greu gyda Ffion Williams. Mae hi hefyd wedi cyd-ysgrifennu dwy bennod a chyfarwyddo pennod o’r gyfres ar gyfer Fiction Factory ac S4C.

Ysgrifennodd a chyfarwyddodd ei ffilm fer gyntaf - Baich yn 2019 ar gyfer Severn Screen, gyda chefnogaeth cynllun Beacons Ffilm Cymru. Cafodd y Ffilm ei derbyn i sawl wyl ffilm rhyngwladol.

Ers hyn, mae Mared wedi derbyn arian datblygu gan Ffilm Cymru i ddatblygu ei ffilm hir gyntaf fel awdur a chyfarwyddwr, ac mae hi’n gweithio gyda Severn Screen ar y broses yna. Cafodd Mared ei dewis i fod yn un o 15 awdur/cyfarwyddwr/cynhyrchydd o dros Brydain i fod yn rhan o BFI Network@LFF eleni a bydd ei ffilm fer Baich yn cael ei ddangos fel rhan o’r wyl.

https://network.bfi.org.uk/news-and-features/industry-insights/bfi-networklff-2022-cohort-announcement

Mae hi’n parhau i weithio fel cyfarwyddwr llawrydd ym maes Theatr, Ffilm a Theledu.

 

 

Head shots 2016-77.jpg